MAE yna newid anferth ar y ffordd yn ymwneud gyda’r We yn 2010.

Mae ICANN, y corff sy'n gyfrifol am reoli enwau parth - megis .com, .org, a .uk - wedi datgan y byddant yn derbyn ceisiadau am nifer o enwau newydd.
 

Yn yr Almaen, mae Berlin eisiau .berlin, mae Llundain am gael .london, mae New York yn awyddus i ennill .nyc, a dim ond megis cychwyn ydy hynny.
 

Cafwyd dotCYM ei sefydlu er mwyn ceisio ennill .cym i Gymru.
 

Os bydd Cymru yn llwyddiannus wrth geisio am ei henw parth ei hunan, y gobaith yw creu:
 

- Enwau parth da (byr, disgrifiadwy, cofiadwy) ar gyfer busnesau Cymru, bydd yn llawer rhatach na'r miloedd o bunnoedd mae'n cymryd erbyn hyn i brynu enw .com da
 

- Hwb sylweddol ar ran marchnata busnesau Cymru gyda'n porteli ein hunain - bydd gwestai.cym ac ymweld.cym yn rhoi hwb i dwristiaeth a thorri ar gostau hysbysebu
 

- Canlyniadau chwilio gwell - mae Google a Yahoo wedi cadarnhau y bydd parthau lleol fel .cym yn gwneud yn well yn y peiriannau chwilio ar gyfer ymchwiliadau sydd yn cynnwys termau cysylltiedeg fel Cymru neu Wales
 

Bydd cael ein parth ein hunain hefyd yn golygu y bydd mwy o wario arlein yng Nghymru yn aros yng Nghymru.
 

Bydd amlygu busnesau Cymru yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddewis prynu yn lleol.
Hefyd, bydd enw .cym yn ei gwneud hi’n haws i ddatrys eDrosedd yng Nghymru, a hefyd eDrosedd sydd yn targedu defnyddwyr yng Nghymru.
 

Mae’r ymgyrch wedi denu nifer helaeth o gefnogwyr yn barod, yn cynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, The Chicago Taffia Welsh Society, Menter Iaith Sir Ddinbych, Cymuned, Merched Y Wawr, Cadwch Gymru’n Daclus, grwpiau Brigyn a Mabon, Geraint Griffiths, Catrin Finch, Iwan Bala, Yr Academi Gymreig, Cyngor Llyfrau Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, cwmni Rhuthun Boyns Net, Popeth Cymraeg, Cymdeithas Tai Clwyd, a cynghorau sir Gwynedd a Sir Ddinbych.
 

Ffurfiwyd ymgyrch dotCYM gan grwp o unigolion tebyg eu barn sy’n gweithio ym meysydd masnach, rhaglennu cyfrifiaduron, dylunio, cysylltiadau cyhoeddus, y gyfraith a chyhoeddi a welai’r angen am Barth Lefel Uchaf i’r iaith Gymraeg.
 

Bydd PLU .cym yn chwarae rôl strategol yn dilysu iaith a diwylliant Cymraeg mewn oes o globaleiddio cynyddol.
 

Y gobaith yw bydd yn hwyluso cyfleoedd i unigolion a grwpiau sydd am fod yn rhan o’r gymuned ac uniaethu a grwpiau eraill ar draws y byd.
 

Am fwy o wybodaeth ewch i www.dotcym.org