Brought to you by
Transport for Wales
Mae pobl o bob rhan o ogledd-orllewin Lloegr wedi mwynhau dod ar wyliau i Gymru ers degawdau ac mae’r rheiny o Lannau Merswy a Swydd Gaerhirfryn wrth eu boddau yn harddwch yr arfordir.
Mae safleoedd gwersylla a pharciau carafanau i’w darganfod ar hyd a lled gogledd Cymru, o Brestatyn i Abersoch; llefydd sy’n sbarduno emosiynau ac atgofion o wyliau yng ngwres yr haf.
Mae’r cysylltiadau am gryfhau â chyhoeddiad Trafnidiaeth Cymru eu bod am wella’r gwasanaeth rheilffordd rhwng y rhanbarthau.
O 17 Mai, bydd newid arwyddocaol i’r amserlen, fydd yn golygu rhagor o fanteision i’r rheiny sy’n hoff o deithio ar drên i ymweld â’r gogledd.
Ers tro, mae traethau gogledd Cymru yn boblogaidd fel lle i bobl o ogledd-orllewin Lloegr fynd ar wyliau (Image: Newsquest)
Bydd y newidiadau yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddod i grwydro ysblander arfordir a chefn gwlad gogledd Cymru, boed ar ddiwrnod allan llawn antur, neu am wyliau hirach yn y rhanbarth.
Bydd rhagor o drenau yn rhedeg yn amlach, sy’n gynnydd o 50% yng ngwasanaethau trenau ar hyd Llinell Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru.
Bydd y newidiadau hyn gan Trafnidiaeth Cymru yn golygu teithiau mwy hygyrch o ogledd Lloegr i ogledd Cymru, a’n gyfle i bobl fwynhau ein golygfeydd, o lan y môr i gefn gwlad, drwy hanes, ac wrth gwrs, ein cestyll!
Machlud haul dros gastell Conwy (Image: Getty Images)
Beth am adeiladu castell yn y tywod ar draeth neu darganfod hanes y genedl yn un o’n cestyll go iawn? Gydag amserlen newydd Trafnidiaeth Cymru, mae’n bosib dechrau eich gwyliau heb ffws na ffwdan.
O Gaernarfon neu Gonwy, mae ‘na gastell i siwtio pawb, sy’n cynnwys safle nodedig Castell Gwrych a ddaeth yn enwog am fod yn leoliad y rhaglen deledu I’m a Celebrity yn 2020 a 2021.
I’r rheiny sy’n chwilio am chwa o awyr iach a thraethau o safon, mae Prestatyn yn un o’r llefydd cyntaf ar hyd y linell. Gyda’i phromenâd sy’n ymestyn dros bedair milltir, dyma gyfle i ddianc o’r ddinas a mwynhau ar hyd yr arfordir – a physgod a sglodion hefyd efallai!
I’r rhai sy’n chwilio am antur ychydig yn fwy corfforol, mae dau lwybr beicio yn dechrau ym Mhrestatyn, ac un sy’n eich arwain at Rhaeadr hardd Dyserth.
Un o bedwar traeth ym Mhrestatyn (Image: Getty Images)
Er bod dod ar wyliau ar hyd arfordir gogledd Cymru yn dod ag atgofion yn ôl i bobl o Lannau Merswy, Swydd Gaer a Chilgwri, mae Caer, Lerpwl a Manceinion yn rhannau hollbwysig o ddiwylliant gogledd Cymru.
Ar un adeg, ystyriwyd Lerpwl yn brifddinas ar ogledd Cymru ac roedd bron i 100 o gapeli Cymraeg yn y ddinas. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yno dair gwaith hefyd, â’r olaf ym Mharc Sefton ym 1929.
Mae’r cysylltiadau cryf yn dal i barhau. Mae Lerpwl yn parhau i fod yn boblogaidd i’r rheiny o ogledd Cymru. Mae’r Tate yn uchafbwynt ynghyd â hanes hirhoedlog chwaraeon a cherddoriaeth y ddinas, heb anghofio ei siopau a’i bywyd nos bywiog. Mae’n haws nac erioed i neidio ar drên i orsaf Lerpwl Lime Street.
Mae Caer yn cael ei hadnabod fel un o’r dinasoedd harddaf yn Ewrop, ac mae’n hawdd i ddeall pam. Boed law neu hindda, mae digon i wneud a gweld. Mae hyn yn cynnwys y muriau Rhyfeinig hynaf a hiraf ym Mhrydain, neu’r Amffitheatr Rhufeinig mwyaf yn y wlad.
Ac os mai siopa sy’n cymryd eich ffansi, mae Caer yn leoliad arbennig am benwythnos i ffwrdd. Ymgollwch yn yr awyrgylch drwy grwydro llwybrau pren dan do The Rows, a darganfod siopau, bwytai a chaffis annibynnol a’n unigryw ar hyd a lled y strydoedd.
Rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru (Image: Transport for Wales)
Llwybr y daith trên Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, Abegele a Phensarn, Y Rhyl, Prestatyn, Fflint, Shotton, Caer, Crewe, Lerpwl.
Cynlluniwch eich taith nesaf gyda Trafnidiaeth Cymru yn: trc.cymru/lleoedd/pethau-iw-gwneud-yn/ngogledd-cymru
Share